Cyngherddau – Un o’r pleserau mwyaf mae’r Côr yn gael yw canu mewn cyngherddau wedi trefni i godi arian at wahannol elusennau.

Nadolig  yn  Llanbed – Ers blynyddoedd bellach mae’r Côr wedi cynnal y canu yn yr awyr agored i Sioe Nadolig y Siamber Fasnach yn Llanbed.  Mae siopau’r dref ar agor yn hwyr ac mae’r dref yn llawn pobol yn mwynhau y naws Nadoligaidd.  Mawr yw mwynhad y plant ar ddyfodiad Sion Corn.  Dyma pryd mae canu’r Côr yn troi yn ganu cynulleidfaol a phawb yn ymuno yn y carolau ag ati.

Crynoddisgiau – Bu’r Côr yn hir iawn cyn mentro torri crynoddisg a thâp.  Roedd yn 38 mlynedd cyn gwneud hynny.  Bu’r cynhyrchiad cyntaf  “Noson yng nghwmni Côr Cwmann a’r Cylch” yn llwyddiant mawr a gwerthwyd cannoedd ohonynt i bobl gwyliau SAGA a oedd yn lletya yn y Prifysgol, ynghyd â ffrindiau a rhai oedd yn mynychu ein cyngherddau. Ychydig amser yn ôl aed ati i gynhyrchu un arall o dan y teitl “Adloniant yng nghwmni Côr Cwmann a’r Cylch” ac mae wedi cael derbyniad da iawn.  Mae clawr yr ail ddisg yn drawiadol iawn sef llun o bont Llanbed  a Stryd y Bont gan arlunydd lleol Aerwen Griffiths – gwraig un o’n haelodau.  Rhwng y wledd o ganu a’r llun godidog mae’n fargen am £10. Yn 2014 mae’r  Côr wedi cynhyrchu disg arall i ddathlu yr hanner can mwlyddiaant.  Mae hon hefyd yn £10. 

Concerts – one of the greatest pleasures the choir gets is to sing in concerts arranged to raise money for various charities.

Christmas in Lampeter – For many years now the Choir has been singing in the open air as part of the Chamber of Trade Christmas Show.  The shops in the town open for a late shoping evening in early December and the town becomes full of peolpe enjoying the Christmas atmosphere whilst the children have a visit from Father Christmas.  The choir entertain the shopers through carol singing with everyone invited to join in.

CD’s – The choir was a long time before recording its first CD – 38 years since its formation.  The first CD “Cwmann Choir in Concert” was very succesful and sold well particularly to friends, those who attended our concerts and to SAGA holiday makers who we entertained regularly when they stayed at the University in Lampeter.  We later produced a second CD “Cwmann Choir Entertains” and this one was also well received.  The cover of the second disc was designed by a local artist Aerwen Griffiths who is married to one of our choir members.  Both CD’s should give much pleasure at £10 each.  In 2014 the choir has produced another CD to celebrate our 50th anniversary.  This also sells for £10.